Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:25 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mick Antoniw Russell George Vaughan Gething Llyr Gruffydd Julie James Julie Morgan William Powell Antoinette Sandbach Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Rhodri Asby, Llywodraeth Cymru Andy Fraser, Llywodraeth Cymru Julia Hill, Llywodraeth Cymru Nia James, Llywodraeth Cymru Fiona Leadbitter, Llywodraeth Cymru Jasper Roberts, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Naomi Stocks (Ail Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Seaton (Ymchwilydd) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro
1.1 Yn absenoldeb Dafydd Elis-Thomas, etholwyd William Powell yn Gadeirydd dros dro.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 - 7
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.
4 Bil yr Amgylchedd - Papur Gwyn: Papur briffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
4.1 Rhoddodd Andy Fraser gyflwyniad ar y cynigion yn y Papur Gwyn.
4.2 Atebodd y swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
5 Ymchwiliad i wastraff ac adnoddau - trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad
5.1 Oherwydd y nifer fach o ymatebion a gafwyd, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chynnal ymchwiliad i wastraff ac adnoddau, ond i drafod y pwnc mewn sesiwn graffu yn y dyfodol gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Dŵr
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
7 Blaenraglen waith - Gwanwyn 2014
7.1 Trafododd y Pwyllgor y rhaglen waith a chytuno arni.
8 Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) - Trafodaeth gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
8.1 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan y Pwyllgor ar y canllawiau drafft i’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith y byddai’r Aelodau wedi cael cyfle i drafod y canllawiau drafft yn fanylach.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru): Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
9.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Llythyr gan y Llywydd - Cylch Gorchwyl a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau
9.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.